Staff UCMCSiân Taylor - Rheolwr
Siân sydd yn rheoli’r swyddfa o ddydd i ddydd, gan ddelio â materion ariannol a staff y mudiad. Siân a’r Dirprwy Lywydd sydd yn awdurdodi ein gwariant, a’r Rheolwr yw’r pwynt cyswllt olaf o ran prif benderfyniadau UCMC. Hi hefyd sydd yn gyfrifol am ddirprwyo gwaith y swyddfa ymysg y staff, yn ogystal â phenodi aelodau staff newydd. sian@nus-wales.org.uk
Rhys Dart- Swyddog Datblygu a Hyfforddi
Mae Rhys yn gyfrifol am holl ddigwyddiadau hyfforddi UCMC ac yn teithio o gwmpas
undebau myfyrwyr Cymru yn rheolaidd. Mae e’n gweithio ar gynllunio ymgyrchoedd, ac yn helpu gydag etholiadau undebau. Mae e hefyd ar gael i annog yr undebau hynny sy’n aelodau o UCMC i ddatblygu ac yn eu cynorthwyo gydag unrhyw faterion sy’n peri
pryder. rhys.dart@nus-wales.org.uk
Alex Fenwick - Swyddog Ymgyrchoedd Ymchwil a Gwybodaeth
Mae Alex yn cynnig cefnogaeth i’r Pwyllgor Gwaith o ran ymchwil, dylunio a darparu ym mhob agwedd o waith ymgyrchu a chyhoeddiadau. Hi sy’n cynnal cronfa
wybodaeth UCMC ac yn monitro’r cyfrygnau. Alex fydd eich prif bwynt cyswllt ar
gyfer pob gwaith ymgyrchu, a gall eich cynghori ar y ffordd orau i gael eich neges
drosodd. alex@nus-wales.org.uk
Geoff Jones - Cyfieithydd
Geoff yw cyfieithydd UCMC. Mae’n prosesu holl ddefnyddiau dwyieithog UCM,
Gwasanaethau UCM Cyf. Adloniant UCM ac UCMC, ynghyd â darparu cyfieithu ar y
pryd yn ystod digwyddiadau a chyfarfodydd. Mae hefyd ar gael i ddarparu cyngor ar
faterion dwyieithrwydd i undebau myfyrwyr os oes angen. Cofiwch fod rhaid i bob gwaith a gaiff ei gynhyrchu fynd trwy'r broses gyfieithu, felly mae'n bwysig iawn eich
bod yn glynu at ddyddiadau cau ar gyfer cyflwyno gwaith, yn arbennig ar adegau pan
fo’r swyddfa ar ei phrysuraf. geoff@nus-wales.org.uk
Jos Rano - Gweinyddiaeth
Jos sy’n rhedeg swyddfa UCMC, ateb y ffôn ac ymdrin â phrosesu, a chynhyrchu
holl waith y staff a’r swyddogion. Hi felly yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cynhyrchu
gwaith a dogfennau. Mae hi hefyd yn gyfrifol am archebu cyfarpar a defnyddiau i’r
swyddfa, ynghyd â threfnu llety. jos@nus-wales.org.uk neu office@nus-wales.org.uk
Francesca Montemaggi- Swyddog y Wasg a Materion Cyhoeddus
Francesca sy'n gyfrifol am weithio gyda'r Wasg a'r cyfryngau yng Nghymru gan gynnwys anfon datganiadau ac ymdrin ag ymholiadadau am faterion cyhoeddus. francesca.montemaggi@nus-wales.org.uk neu office@nus-wales.org.uk
|